الوظائفSwyddog Marchnata Digidol Sianel Dewin a Doti
Swyddog Marchnata Digidol Sianel Dewin a Doti
العنوان بلغته الأصلية كما نشره المصدر
Mudiad MeithrinRiyadh, Saudi Arabia٢٣ تشرين الأول ٢٠٢٦
هذا الإعلان مُجمَّع من مصدر خارجي. JeebJob ليست جهة التوظيف، والتقديم يتم على موقع المصدر.
تفاصيل الإعلان كما وردت من المصدر
Yn ôl i'r rhestr swyddi
Gwybodaeth Gyffredinol
Rydym yn chwilio am berson profiadol, brwdfrydig, a chreadigol i farchnata a hyrwyddo Sianel Dewin a Doti mewn modd amrywiol, deniadol ac apelgar i gynulleidfa eang ar ein holl blatfformau digidol ac mewn digwyddiadau ar hyd a lled Cymru.
Gweler y swydd ddisgrifiad am ragor o wybodaeth am y swydd.
Mae croeso i chi gysylltu â Gwenno Haf Jones, Arweinydd Prosiect Digidol i drefnu sgwrs anffurfiol am y swydd – [redacted email]
Gellir gwneud cais am y swydd drwy lawrlwytho a chwblhau ffurflen gais a ffurflen cydraddoldeb ac amrywiaeth, gweler isod.
Dychwelwch y ffurflenni yma at [redacted email]
Manylion y Swydd
Cyflog: MM15–MM20 £25,175 - £28,531
Oriau: 37.5 awr yr wythnos
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Mudiad Meithrin wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau am swyddi gan bawb oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithlu lle ymdrinnir â phob unigolyn ag urddas a pharch. Oherwydd hyn, ynghyd â diffyg cynrychiolaeth o rai cymunedau a grwpiau yn ein gweithlu presennol, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, gwrywaidd ac o’r Mwyafrif Byd-eang.
Dyddiadau Pwysig
Dyddiad Cau: 12/11/2026
Dyddiad Cyfweliad: 19/11/2026
Dogfennau pwysig
Swydd ddisgrifiad docx
Ffurflen gais docx
Ffurflen monitro docx
Buddion staff pdf
Polisi Diogelu Plant pdf
Hysbyseb Swyddog Marchnata Digidol docx
Show more Show less
لا تدفع أي مبالغ مقابل التوظيف. إذا بدا هذا الإعلان مشبوهاً، أبلغنا عنه.
إبلاغ